Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Hydref 2019
Amser:
08.30 -
08.41
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i Fusnes y Llywodraeth ar gyfer y 3 wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2019 -
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad Blynyddol ar Ddiwygio Cyllid Llywodraeth Leol (45 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) (15 munud) - tynnwyd yn ôl
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 13 Tachwedd 2019 -
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais y Pwyllgor i gynnal cyfarfod y tu allan i'w amser arferol ar yr amserlen.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad i leihau nifer y Cwestiynau Llafar sy'n ymddangos ar agenda'r Cyfarfod Llawn o 15 i 12, ac i ddiweddaru'r Canllawiau ar Ymddygiad Priodol busnes y Cynulliad yn unol â hynny.
Cytunwyd hefyd i gynnig y newid i Reol Sefydlog 12.63 i wneud y gostyngiad yn y nifer o weithiau y gall Aelod fynd i mewn i'r bleidlais ar gyfer Cwestiynau Llafar Gweinidogol yn barhaol o ddwywaith i unwaith, a gosod adroddiad i'r perwyl hwn.
Mae Rheolwyr Busnes yn fodlon i'r Aelodau barhau i allu cyflwyno dau Gwestiwn Llafar i'r Cwnsler Cyffredinol yn ei rôl fel swyddog cyfreithiol.
Cytunwyd hefyd i leihau nifer yr Aelodau a ddewisir yn y bleidlais gychwynnol o 20 i 16, a diweddaru'r Canllawiau ar Ymddygiad Priodol busnes y Cynulliad yn unol â hynny.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr yn nodi sylwadau'r Pwyllgor ar Reol Sefydlog Biliau Cydgrynhoi arfaethedig.